Rhwydwaith Lles Sir y Fflint
Cefndir | Ymunwch â’r Rhwydwaith Lles
Cefndir
Beth yw’r Rhwydwaith Lles?
Cofrestr o bobl sy’n gweithio neu’n byw yn Sir y Fflint a sydd â diddordeb mewn iechyd a lles.
Nodau’r Rhwydwaith Lles
- Hyrwyddo ymgysylltiad ystod eang o bobl yn natblygiad gwaith a gwasanaethau gwella iechyd a/neu les y sir.
- Darparu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, rhwydweithio a datblygu sgiliau
Ymaelodi â’r Rhwydwaith Lles
Gall unrhyw unigolyn sydd â diddordeb mewn gweithredu i wella iechyd a lles yn Sir y Fflint ac sy’n byw, yn gweithio neu’n darparu gwasanaeth di-elw yn y sir ymaelodi â’r Rhwydwaith Lles yn rhad ac am ddim.
Mae’r broses gofrestru’n gyflym a rhwydd (gweler ‘Ymuno â’r Rhwydwaith Lles'), ac unwaith mae unigolyn yn aelod o’r rhwydwaith, byddant yn elwa o gyfleoedd i
- Gyfrannu at gamau i wella iechyd a lles
- Derbyn gwybodaeth gan Swyddog Cymorth y Rhwydwaith Lles am ddigwyddiadau neu waith sy’n digwydd neu’n cael ei ddatblygu yn y sir
- Rhannu gwybodaeth, sgiliau a syniadau gydag aelodau eraill y Rhwydwaith
Pa fath o waith fydd y Rhwydwaith yn ei wneud?
Prif ffocws y rhwydwaith yw atal salwch a hyrwyddo iechyd da fel y diffinnir yn y flaenoriaeth Gwella ac Amddiffyn Iechyd yn Iechyd Da, Gofal Da:
| ymarfer corff | |
| diet a maeth | |
| rhoi’r gorau i ysmygu | |
| camddefnyddio alcohol a sylweddau | |
| iechyd a lles y meddwl | |
| damweiniau ac anafiadau | |
| heintiau |
