English

BETH SY'N NEWYDD:
 

CYSYLLTWCH Â NI:

DOLENNI:
Her Iechyd Cymru
www.siryfflint.gov.uk
www.sustrans.org.uk
Llwybr Arfordirol Dyfrdwy
www.walkingnorth
wales.co.uk

Cerdded am Oes

Fel rhan o’r ymgyrch Newid am Oes cawn ein hannog i wneud newidiadau bychain i’n bywydau bob dydd er mwyn gwella’n hiechyd a’n lles. Gall cerdded yn amlach fod yn rhan o’r newidiadau hynny.

Bydd y dolenni a ganlyn yn eich helpu i gael hyd i lwybrau cerdded sy’n addas i chi a’ch teulu.

""

Troedio Sir y Fflint

Nod Troedio Sir y Fflint yw annog pobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Sir y Fflint, i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau un o’r teithiau cerdded dan arweiniad a gynigir o amgylch Bwrdeistref Sir y Fflint.

Mae’r teithiau cerdded hyn yn rhad ac am ddim a chewch eich tywys gan wirfoddolwyr a hyfforddir gan Troedio Sir y Fflint, prosiect Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr tan fis Mawrth 2010.

I gael gwybodaeth am y teithiau cerdded ac i weld yr amserlen wythnosol/misol, dilynwch y ddolen hon:

Troedio Sir y Fflint* (Saesneg yr unig)

*Mae’r manylion ar y wefan hon yn cael eu diweddaru ond mae’r teithiau cerdded sy’n cael eu hysbysebu tan fis Medi 2010 yn gywir

""

Cerdded yng Nghefn Gwlad Sir y Fflint

Mae tirwedd cefn gwlad Sir y Fflint yn hynod amrywiol. Yn y llyfryn ‘Cerdded yng Nghefn Gwlad Sir y Fflint’ cewch wybodaeth am y 25 llwybr cerdded gorau yn y sir, ynghyd â mapiau a chyfarwyddiadau clir, ffotograffau lliw a hanesion lleol

.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho copi o’r llyfryn, ewch i dudalen Cefn Gwlad – Llwybrau cerdded ar wefan Cyngor Sir y Fflint.

""

Parc Gwepra

Mae Parc Gwepra yn goetir hynafol sydd â chyfoeth o hanes a bywyd gwyllt. Mae aceri o dir coediog i gerdded drwyddynt ac mae’n llecyn gwyrdd gwerthfawr iawn i bobl Cei Connah. Daw 200,000 o ymwelwyr i’r Parc bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon:

Llyfryn Parc Gwepra (1.0Mb PDF)

""

Mae Bryniau Clwyd

Roedd yr ardal yn dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1985 ac mae wedi ei nodweddu gan rostir ysgubol, grug bryniau clad, creigiau calchfaen a dyffrynnoedd sydd yn cynnig golygfeydd gwych a llwybrau tawel. P'un ai ydych yn cerdded neu seiclo ar hyd y Bryniau Clwyd yn ddelfrydol ar gael i ffwrdd, gyda rhywbeth addas i bob gallu, o deuluoedd i selogion.

Mae Bryniau Clwyd AHNE wefan yn darparu yr holl wybodaeth a allai angen i chi gynllunio eich ymweliad i'r ardal.