Camddefnyddio Sylweddau
Mae’r term Camddefnyddio Sylweddau yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon neu feddyginiaeth dros y cownter sy’n cael eu cymryd ar ddosys uwch na’r hyn a argymhellwyd gan feddyg neu fferyllydd.
Mae pobl yn defnyddio cyffuriau am wahanol resymau, er enghraifft, gall rhai ddefnyddio cyffuriau yn eu hamser Hamdden sy’n golygu mai yn achlysurol y byddant yn defnyddio cyffuriau. Gall eraill fynd ar Sbri cyffuriau sy’n golygu pan fyddant yn defnyddio cyffur eu bod yn ei or-ddefnyddio (fel arfer llawer iawn dros gyfnod byr o amser). Mewn rhai achosion pan fo rhywun yn cymryd cyffur am gyfnod o amser maent yn dod i ddibynnu arno a gall hyn ddatblygu yn Ddibyniaeth, sy’n golygu fod yn rhaid i’r unigolyn gymryd y cyffur er mwyn medru gweithredu a theimlo’n normal.
Mae dau fath o ddibyniaeth - Seicolegol a Chorfforol. Dibyniaeth seicolegol yw pan fo rhywun yn dod yn ddibynnol ar yr effaith mae’r cyffur yn ei roi iddo/i a gall ddioddef hebddo. Gall rhai cyffuriau megis heroin ac alcohol achosi dibyniaeth gorfforol lle bydd y corff yn adweithio ac y gall yr unigolyn fynd yn wael iawn os nad yw’n cael y cyffur.
Mae gwahanol fathau o gyffuriau ac y maent oll yn cael gwahanol effeithiau ar y corff. Mae rhai yn symbylyddion sydd yn tueddu i gyflymu system nerfol ganolog y corff a chyflymu curiad y galon; mae eraill yn iselyddion am eu bod yn arafu’r system nerfol ganolog; mae hefyd gyffuriau rhithbeiriol sydd yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn gweld, clywed ac yn teimlo pethau. Mewn geiriau eraill, maent yn drysu eich synhwyrau a gallant achosi i chi weld pethau nad ydynt yno neu glywed synau yn wahanol.
Gall cyffuriau achosi llawer o broblemau i iechyd rhywun yn gorfforol a meddyliol. Gwnaed llawer o ymchwil sydd yn dangos y gwir beryglon, a chyda rhai cyffuriau, mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd y peryglon yn y tymor hir. Mae cryfder cyffuriau yn amrywio o ardal i ardal, hyd yn oed rhwng y gwahanol fasnachwyr, a wyddoch chi byth yn union beth ydych yn ei gymryd. Mae purdeb llawer o gyffuriau ar lefel y stryd yn isel, ac mae pethau eraill fel arfer yn cael eu hychwanegu at y cyffur i wneud iddo edrych yn fwy nac ydyw - pethau fel talc, powdr dannedd, llwch brics a gronynnau coffi. Mae hyd yn oed ronynnau o wydr wedi eu canfod mewn rhai samplau! Felly rydych chi wir yn hapchwarae wrth eu defnyddio.
Nid yn unig y bobl sy’n cymryd cyffuriau sy’n teimlo’r effaith: mae aelodau teulu a chyfeillion hefyd yn medru dioddef yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol.
Mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn ddeddfwriaeth sy’n categoreiddio cyffuriau anghyfreithlon yn Ddosbarthiadau A, B ac C yn dibynnu ar ba rai yr ystyrir yn fwyaf niweidiol. Dengys y rhestr isod gategorïau pob cyffur a reolir dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, y math o gyffur yr ystyrir hwy (symbylydd, iselydd neu rithbeiriol) ac uchafswm y gosb y gallai rhywun gael.
DOSBARTH A |
||
CYFFUR |
CYFFUR |
UCHAFSWM COSB |
Cocên a Chocên crac |
Symbylydd |
Cosb am fod ym meddiant:
Cosb am fasnachu/cyflenwi: |
Heroin |
Iselydd |
|
Ecstasy (MDMA) |
Symbylydd/Rhithbeiriol |
|
LSD |
Rhithbeiriol |
|
Madarch Hudol (naill ai ffres neu wedi eu paratoi i’w defnyddio) |
Rhithbeiriol |
|
Methylamphetamine (Crystal Meth) |
Symbylydd |
|
Amffetaminau (wedi’u paratoi i’w chwistrellu) |
Symbylydd |
|
DOSBARTH B |
||
Amffetamiau |
Symbylydd |
Cosb am fod ym meddiant:
Cosb am fasnachu/cyflenwi: |
Methylphenidate (Ritalin heb bresgripsiwn) |
Symbylydd |
|
barbitwradau |
Iselydd |
|
Dihydrocodiene (DF118) |
Iselydd |
|
Canabis |
Iselydd |
|
DOSBARTH C |
||
Tawelyddion |
Iselydd |
Cosb am fod ym meddiant:
Cosb am fasnachu/cyflenwi: |
Rhai poenladdwyr |
Iselydd |
|
Gamma Hydroxybutyrate (GHB) |
Iselydd |
|
Ketamine |
Iselydd |
|
Nitrazepam |
Iselydd |
|
(Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ond mae’n rhoi manylion am y sylweddau mwyaf cyffredin)
Mae amrywiaeth o wasanaethau yn Sir y Fflint fedr rhoi cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i bobl sydd eisiau mynd i’r afael â cham-drin sylweddau. Mae help i’r rhai sydd ei eisiau a chefnogaeth a chyfarwyddyd i aelodau teulu sydd eisiau cefnogi rhywun trwy driniaeth neu sydd angen rhywun yn gefn iddyn nhw. I’r rhai sydd heb erioed drio cyffuriau ond sydd yn chwilfrydig, mae gwybodaeth fel bod pobl yn medru gwneud dewis ar sail o wybodaeth am beth i’w wneud, ac y mae gwasanaethau a llinellau cymorth fyddai’n hapus i’ch helpu a gwefannau lle medrwch gael gwybodaeth pryd y mynnwch. Mae’r neges yn glir - mynnwch wybodaeth cyn dod i unrhyw benderfyniad, ac y mae nifer o ddolenni i chi gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau yn eich ardal a mwy o ffeithiau manwl am gyffuriau.
Os hoffech wybod mwy am wasanaethau Sir y Fflint a lle i fynd i gael help a chyngor, dilynwch y ddolen hon: www.nwsmf.org.uk
