English

DOLENNI DEFNYDDIO:
Her Iechyd Cymru
www.wales.nhs.uk
www.alcoholconcern.co.uk
www.cais.co.uk
www.talktofrank.com

www.yfeddoethcymru.org.uk

 

 

Yfed yn Gall

Fel arfer, ni fydd yfed y tu hwnt i’r cyfyngiadau argymelledig yn niweidio’ch iechyd. Fodd bynnag, gall yfed achlysurol neu gymdeithasol sy’n arwain at yfed yn drymach achosi problemau cymdeithasol, seicolegol a phroblemau i’ch iechyd.

Mae yfed yn gyfrifol yn golygu gwylio faint yr ydych yn ei yfed a’r ffordd yr ydych yn yfed alcohol. Y cyngor yw….

""

Bwyta pryd llawn cyn dechrau yfed.

""

Cadw’ch diod yn y golwg bob amser.

""

Osgoi cymysgu diodydd, yfed mesurau dwbl neu chwarae gemau yfed.

""

Amseru’ch diodydd – dim mwy nag un bob awr.

""

Yfed diodydd sy’n cynnwys llai o alcohol.

"" Cadw at y cyfyngiadau dyddiol argymelledig (3 uned i ferched, 4 i ddynion).
 

Canllaw unedau sylfaenol:
25ml o wirod = 1 uned.
175 ml o win (sy’n cynnwys 12% o alcohol) = 2.1 uned
1 peint o gwrw, lager neu seidr cryfder 5% = 2.8 uned

"" Peidiwch â chael sesiwn yfed wyllt – ni ddylid cadw unedau argymelledig dyddiol yr wythnos at y penwythnos.
"" Yfwch ddiodydd alcoholig bob yn ail â diodydd di-alcohol trwy gydol y noswaith.
"" Peidiwch â gyrru na defnyddio peiriannau ar ôl yfed.

Chi, Eich Plentyn ac Alcohol

Dros y degawd diwethaf, mae pryder ymysg y cyhoedd am effaith alcohol ar ein hiechyd a’n cymdeithas wedi cynyddu’n raddol. Yr hyn sy’n achosi’r pryder mwyaf yw lefel a phatrwm yfed ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru ac effeithiau hyn ar iechyd, troseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ganllaw ar blant a phobl ifanc yn defnyddio alcohol ym mis Mehefin 2010. Defnyddiwyd yr holl dystiolaeth a oedd ar gael i wneud argymhellion polisi a datblygu’r tair egwyddor lywio ganlynol a fydd yn helpu i warchod ein plant a’n pobl ifanc rhag risgiau defnyddio alcohol.

                                     Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma

 

Edrychwch ar http://www.wales.nhs.uk i ddarganfod mwy

Mae Proffil alcohol ac iechyd yng Nghymru wedi cael ei greu gan Ganolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (GICC).
.