Newyddion a Digwyddiadau
![]() |
|
| Diwrnod Dim Ysmygu 2012 - Dydd Mercher, Mawrth 14 Gwyddom y byddai’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dymuno rhoi’r gorau iddi, ond yn ei chael yn anodd i wneud hynny. I lawer, nid yw’r diwrnod sy’n rhydd o fwg yn cyrraedd ac felly rydym yn anelu at annog ysmygwyr i feddwl ymlaen llaw. Gyda help Diwrnod Dim Ysmygu - gwnewch y diwrnod hwnnw yn ddydd Mercher, 14 Mawrth 2012. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch ac i gael mynediad i adnoddau, cliciwch yma (Saesneg yn Unig) |
|
Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn am iechyd a bydd ein harbenigwyr gwybodaeth iechyd yn ymateb i’ch ymholiad o fewn tri diwrnod gwaith. Os na fyddwn yn gallu ateb eich cwestiwn, byddwn yn e-bostio ac egluro pam. Cliciwch yma er mwyn cyflwyno eich Ymholiad Gwybodaeth Iechyd. |
|
Dechrau Egnïol, Dyfodol Egnïol Yn yr adroddiad hwn ceir cytundeb ar draws y DU o ran faint o weithgarwch corfforol a’r math o weithgarwch corfforol y dylai pob un ohonom geisio ei wneud ar adegau gwahanol yn ein bywydau. I gael yr adroddiad llawn a thaflenni ffeithiau, cliciwch yma. |
|
App Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Mae Sustrans wedi rhyddhau app iPhone ‘Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Cyflawn'. Mae’r app sydd yn rhad ac am ddim wedi’i greu i helpu pobl wneud y mwyaf o’u siwrneiau ar droed neu ar feic. Llwythwch app iPhone 'Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Cyflawn' |
|
Hoffem gael eich atgofion CHI am chwarae! Mae Uned Chwarae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgyrch 12 mis i godi proffil chwarae a dealltwriaeth ohono. Mae’r ymgyrch yn annog pobl o bob oed ac o bob cwr o Sir y Fflint i ail-fyw eu profiadau a’u hatgofion am chwarae pan oeddynt yn blant. Bydd y wybodaeth a gesglir yn caniatáu i ni gymharu’r gemau a chwaraewyd, faint o ryddid a roddwyd i blant yn y gorffennol a’u profiadau chwarae. Bydd y wybodaeth hefyd yn caniatáu i ni ddeall sut y mae gweithgareddau chwarae wedi newid a deall yr angen cynyddol am ddarpariaethau chwarae mewn cymunedau modern. Daw’r ymgyrch i ben drwy arddangos casgliad o’r holl wybodaeth yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithasau Chwarae 2011, a gynhelir yng Nghaerdydd, a hefyd mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol eraill. |
|
| Rhaglenni Addysg i Gleifion(EPP)
Mae CDSMP yn gwrs i helpu pobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd tymor hir. Mae LAM yn gwrs i helpu pobl sydd â rôl gofal. Mae’r ddau gwrs am diim ac i gynnal a gwella ansawdd bywyd trwy gyrsiau hunan reoli. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma |
|
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn falch o gael lansio ei wefan 'Health at Work' newydd sy’n cefnogi hyrwyddwyr iechyd yn y gweithle. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth gyfamserol ynglŷn â gweithgaredd corfforol, bwyta’n iach a lles meddwl, yn ogystal â llawer o syniadau, offer ymarferol a lawrlwythiadau i’r hyrwyddwr iechyd yn y gweithle greu clwb iechyd yn y gwaith. |
|
| Taflenni Her Iechyd Cymru
Mae Her Iechyd Cymru wedi cynhyrchu taflenni newydd yn ddiweddar, yn cynnwys: • Canser y ceilliau: sut mae dy beli? • Strôc: does dim rhaid i chi ddioddef! • Diabetes: sut i’w osgoi os oes modd! • Clefyd yr arennau: atal methiant yr arennau • Canser: lleihau’r risg Mae’n bosibl gweld y taflenni hyn ar wefan Her Iechyd Cymru neu mae croeso i chi ffonio’r llinell archebu cyhoeddiadau ar 0845 606 4050 |
|
Galw IECHD Cymru Gwasanaethau Iechyd, Cymorth a Lles. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |

