English

USEFUL LINKS:

www.siryfflint.gov.uk
 

 

 

Gwobrau’r Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae Prosiect Bocsys Adnoddau Maeth Ysgolion Sir y Fflint wedi ennill Ail Wobr AFAL fel rhan o Gynllun Gwobrau AFAL 2009 Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. Mae’r cynllun yn cydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau at fentrau maeth lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddiet neu arferion bwyta yn y cymunedau maent yn gwasanaethu. Yn ddiweddar cyflwynwyd y wobr o £1000 a phlât pren dathliadol a wnaed â llaw yn nigwyddiad Blas am Oes Sir y Fflint yn yr Holiday Inn yn Sir y Fflint. Roedd Sarah Powell-Jones, Cynorthwy-ydd Dietegol, a Sarah Wisbey, Nyrs Ysgol, o Ranbarth Dwyrain Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, yn falch iawn i dderbyn y wobr ar ran pawb a fu’n gysylltiedig â’r prosiect ers iddo ddechrau yn y 1990au hwyr.

Mae’r bocsys adnoddau maeth ysgolion yn cynnig deunyddiau hawdd eu defnyddio i ysgolion Sir y Fflint, a’r gymuned ehangach, er mwyn hybu bwyta’n iach mewn ffordd ryngweithiol a llawn hwyl. Mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio yn eang ar draws y sir i gefnogi gwaith a seiliwyd ar y cwricwlwm, digwyddiadau iechyd yn yr ysgol ac addysg gymunedol, prosiectau ‘coginio a blasu'. Y gweithio mewn partneriaeth gref rhwng Dietegwyr, Nyrsys Ysgol a’n partneriaid yn Tîm Iechyd Da, Gofal Da Sir y Fflint, y Tîm Ysgolion Iach a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Lleol fu’r cryfder go iawn y tu ôl i’r prosiect. Roedd pawb a gymrodd rhan wrth eu bodd i dderbyn cydnabyddiaeth arbennig am eu rhan wrth ddatblygu’r hyn sydd wedi bod yn adnodd cynaliadwy llwyddiannus iawn.

Dywedodd Alys Roberts, Dietegydd Blas am Oes Sir y Fflint a enwebodd y prosiect ar gyfer y wobr “Mae’r bocsys maeth wedi bod yn adnodd ardderchog, yn hybu ac yn annog maeth da ymhlith plant oed ysgol. Maen nhw’n cyflenwi'r gwaith cynnar llwyddiannus iawn sy'n digwydd yn Sir y Fflint mewn perthynas â chynllun gweithredu Blas am Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ceisio gwella safonau maethol bwyd a diod mewn ysgolion trwy ddefnyddio dull partneriaeth ag asiantaethau lleol allweddol