Bocsus Adnoddau Maeth Ysgolion Sir y Fflint yn cael eu Diweddaru a’u Hail-lansio
Mae holl ysgolion cynradd Sir y Fflint wedi cael mynediad at Focs Adnoddau Maeth i Ysgolion ers 2003 drwy’r Timau Nyrsio ar gyfer Ysgolion. Paratowyd yr adnoddau hyn yn wreiddiol gan yr Adran Ddeieteg (Ysbyty Maelor Wrecsam) a’u hariannu gan Gynghrair Iechyd Sir y Fflint. Roeddynt yn cynnwys cymysgedd o adnoddau dwyieithog y gellid eu defnyddio mewn ysgolion cynradd i hyrwyddo dewis bwyd iach gan gynnwys syniadau am weithgareddau, posteri, lluniau o fwyd, taflenni ac ati. Yn 2007 adolygodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd fodel bwyd y DU ‘Cydbwysedd Iechyd Da’ (y cyfeirir ato nawr fel Y Plât Bwyta’n Dda), ac felly’n golygu ei bod yn bryd diweddaru Bocsus Adnoddau Maeth Sir y Fflint. Gyda chymorth Tîm Iechyd y Cyhoedd Sir y Fflint, roedden ni’n gallu prynu 2 set gyfan o fodelau bwyd ar gyfer tîm nyrsio pob ysgol, sef Yr Wyddgrug, Y Fflint a Queensferry. Yn awr mae gan bob tîm nyrsio ysgol: - Mae rhai adnoddau hefyd ar gael i’w llawrlwytho yma Yn dilyn eu diweddaru, cafodd y Bocsus Adnoddau Maeth eu cyflwyno i bob tîm yn ystod Medi 2008. Gobeithir y caiff yr adnoddau cyfoes hyn eu defnyddio’n effeithiol o fewn yr ysgolion cynradd a hefyd mae yna system fenthyca’n bodoli i hwyluso hynny. Mae gweithlu bach yn cynnwys partneriaeth cryf rhwng yr Adran Ddeieteg a’r tîm nyrsio ysgolion o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Adran Ddwyreiniol),Tîm Iechyd y Cyhoedd Sir y Fflint, Tîm Iechyd Da, Gofal Da, a Thîm Ysgolion Iach Sir y Fflint wedi galluogi i’r adnoddau hyn gael eu crynhoi a’u datblygu. Byddant o fudd pellach mewn meysydd gwaith datblygol eraill gan gynnwys Archwaeth am Oes (camau i wella mynediad at opsiynau bwyd a diod iach yn yr ysgol a chynyddu’r nifer sy’n dewis prydau bwyd ysgol), a gweithredu rhaglen MEND (rhaglen driniaeth i blant a phobl ifanc gordew 7-13 mlwydd oed a’u teuluoedd). Bydd yr adnoddau’n cael eu hadolygu mewn chwe mis i drafod eu gwerth ac amlder eu defnydd, a sicrhau cyfanrwydd a chyfoesedd y cyfan.
|
