Atal Anafiadau
Gall anafiadau fod yn ‘fwriadol’ – h.y. wedi’u hachosi’n fwriadol gan rywun arall, neu’n ‘anfwriadol’ (a elwir yn ‘ddamweiniau’ ambell waith’).
Yn Sir y Fflint, nid ydym yn defnyddio’r term ‘damwain’ gan fod modd atal y mwyafrif o anafiadau.
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod dros 6,100 o blant yn Sir y Fflint yn mynd i’r ysbyty o ganlyniad i anaf. Mae tua hanner y rhain yn digwydd yn y cartref a byddai wedi bod yn bosibl eu hatal. Yn yr un modd, mae oddeutu 6,600 o bobl dros 50 oed yn cael codwm bob blwyddyn. Mae dros 1,300 o ddigwyddiadau yn mynnu sylw meddygol ac mae oddeutu 600 yn achosion o dorri esgyrn.
I blant ifanc iawn a phobl hŷn, mae mwyafrif yr anafiadau anfwriadol yn digwydd y tu mewn neu du allan i’r cartref.
Mae anafiadau’n achosi rhwng 3 a 4% o holl farwolaethau Sir y Fflint a dyma sy’n bennaf gyfrifol am farwolaethau ymysg pobl ifanc.
Gall anafiadau arwain at ganlyniadau difrifol hirdymor i iechyd a lles pobl ac i ddarpariaeth y gwasanaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol
Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros anafiadau anfwriadol yn y cartref a’r gymuned.
Atal cwympiadau - Pwyll Piau Hi |
Mae cwympiadau'n fwy cyffredin ymysg pobl dros 65 oed, ond gellir eu hatal. Ydych chi'n poeni am gwympo? Dyma gyngor synnwyr cyffredin i'ch helpu chi |
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyfrannu at amddiffyn rhyw 670,000 o bobl mewn ardal sy'n 2,400 milltir sgwâr, yn ogystal â channoedd o filoedd o dwristiaid ac ymwelwyr sy'n dod i'r ardal bob blwyddyn.
Mae ein swyddogion diogelwch tân yn rhoi cynghorion ar ddiogelwch tân ac maent yn gweithio gydag ysgolion, busnesau a chymunedau i wella diogelwch tân.
Cysylltwch â'ch Swyddog Diogelwch Tân lleol:
Sir y Fflint - e-bost neu 01352 792 820
Cais am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref
Dogfennau ichi eu llwytho :
| Atal Anafiadau Anfwriadol yn Sir y Fflint - Hydref 2005 (Saesneg yn unig) | |
