English

DOLENNI DEFNYDDIO:
www.fflintyrifanc.co.uk/
www.fpa.org
www.nhsdirect.nhs.uk
www.relate.org.uk
www.bbc.co.uk/
relationships
www.encompass.btik.com
www.doh.gov.uk
http://www.nhs.uk/LiveWell/
SexualHealth
www.HerIechydCymru.
wales.gov.uk
www.caughtout.org.uk

 

 

Iechyd Rhywiol

 

Oeddech chi’n gwybod....

"" Bod cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn cynyddu yng Nghymru. Er bod cynnydd dramatig wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n bwysig nodi eu bod yn dal i fod yn is na ffigyrau sawl rhan o’r Deyrnas Unedig.

 

Cyswllt allanol

Ydych chi’n poeni am eich iechyd rhywiol?........ ewch i’ch Clinig Gwasanaethau Iechyd Rhywiol lleol

 

Oeddech chi’n gwybod....

"" Yng nghanol a diwedd y nawdegau, roedd y cyfraddau cenhedlu ymysg merched dan 16 oed yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau cenhedlu i rai dan 16 oed yn Sir y Fflint yn is na’r cyfartaledd i Gymru: 6.6 o bob 1,000 o ferched rhwng 13 a 15 oed o’i gymharu ag 8.0 o bob 1,000 ledled Cymru.

 

Yn Sir y Fflint, rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn trwy nifer o brosiectau.

"" Mae prosiect Addysg Rhywiol a Pherthnasoedd Ieuenctid a Chymuned Sir y Fflint yn rhaglen gynhwysfawr sy’n gweithredu ar hyd a lled y Sir. Nod cyffredinol y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o iechyd rhywiol ymhlith pobl ifanc 11-25 oed. Caiff ei gyflwyno drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol mewn ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid. Mae’n rhoi cyfleoedd addysgol i bobl ifanc, gan ganiatáu iddynt archwilio a meithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen arnynt i ddysgu am eu cyfrifoldebau a’u hawliau fel aelodau gwybodus o’r gymdeithas.
"" Un o fentrau’r prosiect yw cynllun Cerdyn C. Mae’r cynllun yn targedu pobl ifanc 13-25 oed gan mai ymhlith y bobl ifanc hyn y mae cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ar ei uchaf. Caiff condomau a defnyddiau atodol eu darparu’n gyfrinachol ac yn ddi-lol er mwyn codi ymwybyddiaeth am berthnasoedd, rhyw mwy diogel, beichiogrwydd anfwriadol, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV. Caiff trafodaethau eu sbarduno’n aml drwy’r cysylltiad hwn â phobl ifanc ynghylch gwahanol agweddau ar iechyd rhywiol ac mae modd eu cyfeirio hefyd at wasanaethau eraill sy’n delio ag iechyd rhywiol. Mae’r cynllun yn ffordd rwydd a chyflym i bobl ifanc gael condomau, mewn amgylchedd diogel lle mae cyfle iddynt hefyd gael cyngor a gwybodaeth am iechyd rhywiol a pherthnasoedd.

""

Cydlynir y prosiect Addysg Rhywiol a Pherthnasoedd gan Bev Baines gyda chymorth Katie Gardener sy’n weithiwr cynorthwyol.

 

 

bev.baines@flintshire.gov.uk

 

01352 753914

 

Mae Gwasanaeth Atal Cenhedlu Hormonaidd brys yn weithredol mewn rhai siopau fferyllydd… chwiliwch am y logo yn ffenestr eich fferyllydd lleol.

""

Body Positive Sir Gaer a Gogledd Cymru Cynllun Cefnogaeth Symudol

Bwriad y cynllun yw darparu cymorth yn gysylltiedig a thai i helpu pobl sydd yn byw gyda HIV gan eu cynnal i fyw’n anibynnol. Nod y cymorth ydyw helpu rhwystro problemau a allai arwain at y denantiaeth yn torri lawr gan achosi di-gartrefedd. Bydd gwasanaeth cefnogi pobl Body Positive yn gweithio gyda phobl sydd yn byw gyda HIV a bydd yn ffocysu ar bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru (Mon, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint a Wrecsam).

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma

""

Encompass yw’r grŵp newydd i Lesbiaid, Hoywon, Pobl Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT) yn ardal gogledd Cymru a Swydd Gaer. I ddarganfod mwy am y grŵp, edrychwch ar http://www.encompass.btik.com/

""
Mae Fusion yn grŵp sydd wedi’i greu gan bobl ifanc yn Sir y Fflint ar gyfer pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae’r grŵp yn cyfarfod yng Nghanolfan Ieuenctid Treffynnon ar nos Iau. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar: http://www.youngflintshire.com/young_lgbtq.asp