English

DOLENNI DEFNYDDIO:
www.nhs.wales.uk
www.nhsdirect.nhs.uk
www.doh.gov.uk
www.HerIechydCymru.
wales.gov.uk
www.screeningservices
.org.uk/btw

 

 

Sgrinio Iechyd

 

Sgrinio ar gyfer Canser

Mae sgrinio ar gyfer canser yn golygu profi nifer fawr o bobl iach am arwyddion cynnar o fathau arbennig o ganser. Gall hyn gynorthwyo meddygon i ddarganfod unrhyw newidiadau annormal cyn i symptomau ddatblygu

Mae tair rhaglen sgrinio yn y DU, ar gyfer canser y fron, canser serfigol a chanser y coluddion:

Sgrinio Coluddyn Cymru

"Peidiwch â marw o gywilydd"

""

Canser y coluddyn yw’r canser mwyaf cyffredin ond dau yng Nghymru. Mae 1,000 o bobl yn marw ohono bob blwyddyn yng Nghymru.

Fodd bynnag, os caiff ei ganfod yn gynnar, mae hefyd yn un o’r mathau o ganser sydd hawsaf i’w drin.

"" Mae sgrinio’r coluddion yn rheolaidd yn lleihau’r risg o farw o ganser y coluddyn 15%.
""
Mae sgrinio’n canfod canser y coluddyn yn gynnar - yn aml pan nad oes symptomau - ond ar yr adeg pan fo triniaeth yn fwyaf effeithiol.
""

Mae’r rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru yn dechrau gyda phobl rhwng 60 a 69 oed.

Os ydych rhwng 60 a 69 oed, cewch becyn sgrinio’r coluddion drwy’r post dros y ddwy flynedd nesaf.

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Llinell Gymorth am Ddim ar 0800 294 3370

    
Sgrinio Canser Serfigol

Yng Nghymru, gwahoddir menywod 20 - 64 mlwydd oed i gael eu sgrinio bob 3 blynedd. Am wybodaeth bellach ynghylch y rhaglen sgrinio ar gyfer canser serfigol, cliciwch yma (Saesneg yr unig)

 

Sgrinio’r Fron

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban, gwahoddir menywod i gael sgrinio’r fron rhwng yr oedrannau 50 - 70 bob tair blynedd. Am wybodaeth bellach ynghylch y rhaglen sgrinio’r fron, cliciwch yma (Saesneg yn unig)

Bron Brawf Cymru Uned Sgrinio Symudol

Mai - Gorffenaf 2011

Maes Parcio Tesco, Yr Wyddgrug

Ar gyfer y Meddygfa Teulu yn Yr Wyddgrug

Os ysych chi'n 50 - 70 oed eleni, byddwch chi'n cael eich gwahodd i gael sgrinio'ch bronnau.