English

DOLENNI DEFNYDDIO:

Her Iechyd Cymru
www.siryfflint.gov.uk
www.eatwell.gov.uk
www.food.gov.uk
www.bhf.org.uk
www.salt.gov.uk
www.gweithgaredd
corfforolamaethcymru.org.uk

http://www.dh.gov.uk/en/
publicationsandstatistics

 

 

 

Bwyta'n Iach

 

Cyngor: Gwrandewch ar y ffeithiau cyfarwydd am fwyta’n iach sy’n seiliedig ar waith ymchwil dibynadwy a byddwch yn wyliadwrys o’r penawdau newyddion diweddaraf.

 

""

Seiliwch eich prydau bwyd ar fwydydd sy’n cynnwys starts

Anelwch at fwyta mwy o fwydydd grawn cyflawn a brown gan gynnwys bara, reis a phasta.

""

Bwytewch lawer o ffrwythau a llysiau
Anelwch at fwyta 5 gwahanol bob dydd. Mae un darn o ffrwyth yn cyfateb i’r maint y gallwch ei ddal yn eich llaw (80g) yn fras.

""

Bwytewch fwy o bysgod*
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn anelu at fwyta pysgod ddwywaith yr wythnos, gan gynnwys un math o bysgodyn olewog e.e. sardîns, pennog, macrell, brithyll, eog.

*mae cyngor penodol ar gael i ferched sy’n ceisio dod yn feichiog, sydd yn feichiog neu sy’n bwydo o’r fron ar www.eatwell.gov.uk neu gan weithwyr proffesiynol

""

Bwytewch lai o fraster dirlawn a siwgr
Dylech osgoi bwyta bwydydd sy’n cynnwys mwy na 5g o fraster dirlawn am bob 100g.

""

Ceisiwch fwyta llai o halen – dim mwy na 6g y dydd
Mae bwyd sy’n cynnwys mwy na 1.5 g o halen am bob 100g (neu 0.6g sodiwm) yn uchel mewn halen. Anelwch at fwyta bwydydd sy’n cynnwys 0.3g o halen (neu 0.1g o sodiwm) am bob 100g.

""

Yfwch ddigon o ddŵr

 

""

Bwytewch frecwast bob dydd

 

 

wedi’i addasu o www.eatwell.gov.uk

 

Pwysau iach:

Nid yw'n syniad da bod o dan bwysau na dros bwysau. Gall bwyta gormod arwain at fod dros dy bwysau, a allai arwain at afiechyd, fel clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel neu ddiabetes. Gall peidio â bwyta'r hyn sydd ei angen ar dy gorff effeithio ar dy iechyd hefyd.

Os wyt ti'n poeni am dy bwysau, cysyllta â'th feddyg teulu neu dy ddeietegydd. Ond, os mai dim ond angen colli ychydig o bwysau ydych chi, a'ch bod chi eisiau ychydig o help i ddechrau gwneud hynny, cymerwch olwg ar y cynghorion ymarferol yn:

http://www.eatwell.gov.uk/healthydiet/healthyweight/?lang=cy

Rhowch gynnig ar y dolenni neu’r dogfennau hyn i gael ryseitiau blasus a fydd yn cyfrannu tuag at ddiet iachus:

http://www.eatwell.gov.uk/agesandstages/

Ryseitiau Byd y Bwyd

(Saesneg yr unig www.focusonfood.org.uk)

Bwyd Iach Ar Arian Bach

(www.food.gov.uk/cym)

Y Cyfaill Coginio Cardiaidd

(Dogfennau ichi eu llwytho - pdf)

 

Gweithgareddau yn Sir y Fflint

 

Dietegwyr – pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud?

Cyfarfod â Thîm Datblygu Dieteteg Cymunedol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Rhanbarth y Dwyrain)

Rhaglen Cymorth Cyfoed Bronfwydo Sir y Fflint

Enw cyswllt: Fiona Lee

fiona.lee@new-tr.wales.nhs.uk

Cyfeiriad cyswllt: Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Clinig Mynydd Isa, Mercia Drive, Mynydd Isa, Sir y Fflint

Bocsus Adnoddau Maeth Ysgolion

Mae holl ysgolion cynradd Sir y Fflint wedi cael mynediad at Focs Adnoddau Maeth i Ysgolion ers 2003 drwy’r Timau Nyrsio ar gyfer Ysgolion. Yn 2007 adolygodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd fodel bwyd y DU ‘Cydbwysedd Iechyd Da’ (y cyfeirir ato nawr fel Y Plât Bwyta’n Dda), ac felly’n golygu ei bod yn bryd diweddaru Bocsus Adnoddau Maeth Sir y Fflint. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma. 

Mae rhai adnoddau hefyd ar gael i’w llawrlwytho yma:

Bwyta’n Iach
Deall y Prif
Negeseuon
Addewid bwyta’n dda Enfys ffrwythau a llysiau Wythnos Ysgol Iach
Taflen waith Fy Nghinio Ysgol Iach Fy Nghinio Ysgol Iach Canllaw Adnoddau Maeth Gosod cinio iach

 

Cydweithfeydd Bwyd yn Sir y Fflint

cliciwch yma

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Debbie Neale, Gweithiwr Datblygu Bwyd, Gogledd Ddwyrain Cymru, Uned Adfywio Gwledig – 01978 851581/07879 611670 karen.robertson@rru.org.uk

Digwyddiad Bwyta’n Iach o’r Bwmp i’r Babi
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar y 3ydd o Chwefror 2009 a darparodd y newyddion diweddaraf o ran maeth i bawb sy’n gweithio â merched beichiog a babanod ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, yn enwedig bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymorth a gwirfoddolwyr. Mynychodd fwy na 50 o weithwyr iechyd proffesiynol / gweithwyr cymorth y digwyddiad a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Dwyrain), â chefnogaeth y Grant Gweithgaredd Lles a ddarparwyd i Gynghorau Sir y Fflint a Wrecsam. Cafodd ei oruchwylio gan bartneriaethau lleol i gefnogi Her Iechyd Cymru, a chafodd ei ddarparu mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill allweddol gan gynnwys Cychwyn Cadarn a Dechrau’n Deg (Wrecsam a Sir y Fflint).
 
Ymhlith y cyflwyniadau yn y digwyddiad roedd: (Saesneg yr unig)

Cynllunio a bwyta’n dda yn ystod beichiogrwydd

Fitamin D a’r Cynllun Cychwyn Iach

Gwybodaeth am fwydo babanod yn ystod beichiogrwydd

Deall babanod a gafodd eu bwydo ar y fron yn colli pwysau

 

 

Adnoddau Defnyddiol

 

Mae Catalog Adnoddau 2010 yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru bellach ar gael ar-lein.  Gallwch lawrlwytho copi drwy:

www.food.gov.uk/wales/aboutus_wales/fsawalesw/welsh/446407/