Y Cefndir
Her Iechyd Cymru
Cafodd y wefan hon ei datblygu fel rhan o’n cyfraniad lleol at ymgyrch Her Iechyd Cymru a lansiwyd yn genedlaethol yn 2005.
Mae Her Iechyd Cymru yn galw ar bawb – pobl a sefydliadau o bob math - i wneud cymaint ag y gallant i wella iechyd a lles.
Y neges sy’n cael ei gyflwyno yw nad yw gwella lles unigolion ac iechyd y genedl yn rhywbeth y gall unrhyw un sefydliad ei wneud ar ei ben ei hun - mae’n rhaid i bawb wneud eu rhan a chydweithio.
Ewch i wefan Her Iechyd Cymru i ddysgu mwy am y gwaith sydd ar y gweill yng Nghymru ac i gael manylion yr adnoddau sydd ar gael i helpu unigolion a sefydliadau i gymryd rhan.
