Prosiect Datrysiadau Bwyd
Mae’r Prosiect Datrysiadau Bwyd yn cael ei redeg gan Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar gael i unrhyw un dros 50 sy’n byw yn Sir y Fflint.
Mae’r prosiect yn gallu helpu pobl hŷn i gael mynediad at fwyd mewn sawl ffordd.
Y cyntaf yw’r Gwasanaeth Siopa a Dosbarthu (Shop & Drop), sy’n cynnig y cyfle i gael siopa bwyd fod wedi’i ddanfon at eich drws. Mae’n darparu ffordd ddibynadwy o allu prynu bwydydd i’r bobl hynny sy’n ei chael hi’n anodd i fynd allan i siopa drostynt eu hunain. Gellir defnyddio ond ychydig ar y gwasanaeth, neu’n fwy aml yn ôl yr angen ac mae yna ddigon o gyflenwyr i ddewis ohonynt.
Gellir darparu gwybodaeth am ddosbarthiad prydau parod hefyd.
Yn ogystal, mae’r prosiect datrysiadau bwyd yn cynnig cefnogaeth i grwpiau i sefydlu clybiau cinio ac yn darparu gwybodaeth i bobl hŷn am grwpiau cinio yn eu hardal hwy.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
| Cydlynydd y Prosiect | Katherine Mather, Age Concern N.E. Wales |
| KMather@acnew.org.uk | |
| 08450 549969 |
