Prosiect Newydd i Helpu i Atal Diffyg Maeth ymhlith Oedolion Hŷn sy’n Byw yn y Gymuned
Beth yw Diffyg Maeth?
Mae diffyg maeth yn cyfeirio at broblemau mewn perthynas ag anghydbwysedd protein a / neu ynni a maetholion eraill yn y diet. Yn fwy syml, pan fydd gan rywun ddiffyg maeth, nid ydyn nhw’n cael yr holl faetholion maen nhw eu hangen yn y symiau cywir ar gyfer iechyd da.
Mae gan oddeutu 11% o oedolion hŷn dros 65 oed yng Nghymru ddiffyg maeth ac mae’n debygol y bydd hyn bron yn dyblu yn y 10 – 15 mlynedd nesaf wrth i’n poblogaeth barhau i heneiddio.
Beth yw achosion diffyg maeth?
Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at ddiffyg maeth; efallai bod rhai o’r rhain yn cynnwys methu â chyrraedd y siopau oherwydd problemau symudedd, anawsterau wrth gnoi neu lyncu bwyd, incwm isel neu gyfyngedig, neu ddim yn gallu coginio oherwydd salwch neu ddiffyg cymhelliad. Hefyd gall cyflyrau cronig fel arthritis, dementia, clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson, ynghyd ag iselder ac unigrwydd, gyfrannu at unigolyn yn colli chwant bwyd ac yn bwyta llai. Hefyd gall diffyg maeth wneud cyflwr cronig yn waeth lle gall cymryd fwy o amser i iachau a thrin y cyflwr.
Pam ei fod yn broblem i oedolion hŷn?
Weithiau ni fydd problemau maethol mewn pobl yn dod i’r amlwg nes y bydd yr unigolyn yn cychwyn colli pwysau, teimlo’n flinedig neu’n mynd yn fwyfwy eiddil. Gall hyn arwain at nifer o ganlyniadau fel:
| Cyhyrau’n nychu sy’n arwain at risg uwch o godymau | |
| Risg uwch o heintiau | |
| Cymryd mwy o amser i iachau a risg uwch o friwiau gorwedd | |
| Angen i gleifion treulio cyfnodau hirach o amser mewn ysbyty |
Beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd mae offer sgrinio diffyg maeth yn cael eu defnyddio mewn ysbytai a chartrefi nyrsio ledled y DU. Er bod yr offer hyn yn helpu i sgrinio ar gyfer pobl a allai fod â diffyg maeth nid ydyn nhw’n atal diffyg maeth ac maen nhw’n addas i’w defnyddio gan bobl sydd wedi cael rhyw ffurf o hyfforddiant meddygol yn unig.
Nid oes unrhyw ffordd hawdd i unigolion, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol heb fod ym maes iechyd fod yn hyderus ynghylch arwyddion ac achosion diffyg maeth a’r hyn maen nhw’n meddwl dylen nhw ei wneud os oes problem yn cychwyn.
O ganlyniad i’r nifer fawr o broblemau sy’n gysylltiedig â diffyg maeth gan gynnwys cyfradd a chost gynyddol trin diffyg maeth ymhlith oedolion hŷn, mae gweithwyr iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol eraill, sy’n gweithio ar draws nifer o sefydliadau yn Wrecsam a Sir y Fflint wedi sicrhau arian i redeg prosiect i helpu i atal diffyg maeth ymhlith oedolion hŷn sy’n byw yn annibynnol yn y gymuned. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu am ddwy flynedd trwy grant ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Lleol (LHB) Sir y Fflint a Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chyfraniad ychwanegol yn cael ei wneud gan Fwrdd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Wrecsam (HSCWB).
Beth fydd y prosiect yn gwneud
Cychwynnodd y prosiect ym mis Mawrth 2009 a bydd yn edrych ar ddatblygu offer sy’n gallu canfod diffyg maeth, ac felly'r gobaith yw y bydd yn atal diffyg maeth cyn iddo ddigwydd. Bydd yr offer yn cael eu rhoi ar brawf yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam. Bydd yr offer yn addas i bawb yn y gymuned eu defnyddio – pobl hŷn eu hunain, aelodau o’r teulu neu weithwyr proffesiynol heb unrhyw hyfforddiant iechyd. Yn ogystal â helpu i adnabod arwyddion cynnar diffyg maeth, bydd yr offer hefyd yn cyfeirio pobl i’r ffynhonnell fwyaf priodol o help neu gefnogaeth.
Sut i ddarganfod mwy
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect gallwch chi gysylltu â Tony Burgos, dietegydd cofrestredig ac arweinydd y prosiect, ar:
| Tony.Burgos@wales.nhs.uk |
Cyfeiriadau
1. Elia, M. (2000). Guidelines for detection and management of malnutrition. Maidenhead, Berks: BAPEN.
2. Eurostat (2004) Pennod 2. Eurostat yearbook 2004: the statistical guide to Europe – people in Europe. http://epp.eurostat.ec.europa.eu/cache
3. Sefydliad Brenhinol Iechyd Cyhoeddus, European Nutrition for Health Alliance and International Longevity Centre - DU, 2007.
