Creu Sir y Fflint Egnïol
Dylai pob un ohonom geisio cyflawni lefel o weithgarwch corfforol sy’n briodol i’n hoedran.
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnwys pob math o
weithgarwch, megis cerdded bob dydd neu feicio o A i
B, chwarae gweithredol, gweithgarwch sy’n gysylltiedig
â’r gwaith, gweithgareddau hamdden egnïol (megis
mynd i’r gampfa), dawnsio, garddio neu chwarae
gemau corfforol, yn ogystal â chwaraeon wedi’u trefnu
a chystadleuol.
Mae’r canlynol yn ganllaw fesul grŵp oedran ar y math a faint o weithgaredd corfforol y dylai unigolion ei wneud i wella eu hiechyd, yn enwedig i atal afiechyd.
| Blynyddoedd Cynnar (o dan bump oed) | |
|
Dylid annog gweithgarwch corfforol o’r adeg y caiff baban ei eni, yn enwedig drwy chwarae ar y llawr a gweithgareddau yn y dwˆ r mewn amgylcheddau diogel. |
|
Dylai plant cyn oed ysgol a all gerdded heb gymorth fod yn egnïol am o leiaf 180 munud (3 awr) bob dydd, wedi’i ledaenu drwy gydol y dydd. |
|
Dylai plant sydd o dan bump oed fod yn llonydd (hynny yw cael eu rhwystro neu fod ar eu heistedd) am gyn lleied o amser â phosibl am gyfnodau estynedig (ar wahân i’r adegau pan fyddant yn cysgu). |
| Plant a Phobl Ifanc (5–18 oed) | |
|
Dylai plant a phobl ifanc wneud gweithgarwch corfforol cymedrol neu sy’n defnyddio mwy o egni am o leiaf 60 munud a hyd at sawl awr y dydd. |
|
Dylid cyflawni gweithgareddau sy’n defnyddio mwy o egni, gan gynnwys y rheini sy’n cryfhau’r cyhyrau a’r esgyrn, o leiaf dri diwrnod yr wythnos. |
| Dylai plant a phobl ifanc fod yn llonydd (ar eu heistedd) am gyn lleied o amser â phosibl am gyfnodau estynedig. | |
| Oedolion (19–64 oed) | |
| Dylai oedolion geisio bod yn egnïol bob dydd. Dros gyfnod o wythnos dylid gwneud o leiaf 150 munud (2½ awr) o weithgarwch cymedrol am gyfnodau o 10 munud neu fwy – un ffordd o wneud hyn yw 30 munud o leiaf bum diwrnod yr wythnos. | |
| Fel arall, gellir mwynhau manteision tebyg drwy wneud 75 munud o weithgarwch sy’n defnyddio mwy o egni dros gyfnod o wythnos neu gyfuniadau o weithgarwch cymedrol a gweithgarwch sy’n defnyddio mwy o egni. | |
| Dylai oedolion hefyd wneud gweithgarwch corfforol i gryfhau’r cyhyrau o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. | |
| Dylai oedolion fod yn llonydd (ar eu heistedd) am gyn lleied o amser â phosibl am gyfnodau estynedig. | |
| Oedolion Hyn (65+ oed) | |
| Gwêl oedolion hyˆ n sy’n cyflawni unrhyw lefel o weithgarwch corfforol rai manteision iechyd gan gynnwys cynnal gweithrediad corfforol a gwybyddol da. Mae ychydig o weithgarwch corfforol yn well na dim, a rhydd mwy o weithgarwch corfforol fwy o fanteision iechyd. | |
| Dylai oedolion hyˆ n geisio bod yn egnïol bob dydd. Dros gyfnod o wythnos dylid gwneud o leiaf 150 munud (2½ awr) o weithgarwch cymedrol am gyfnodau o 10 munud neu fwy – un ffordd o wneud hyn yw 30 munud o leiaf bum diwrnod yr wythnos. | |
| I’r rheini sydd eisoes yn gwneud gweithgarwch corfforol cymedrol yn rheolaidd, gellir mwynhau manteision tebyg drwy wneud 75 munud o weithgarwch sy’n defnyddio mwy o egni dros gyfnod o wythnos neu gyfuniadau o weithgarwch cymedrol a gweithgarwch sy’n defnyddio mwy o egni. | |
| Dylai oedolion hyˆ n hefyd wneud gweithgarwch corfforol i gryfhau’r cyhyrau o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. | |
| Dylai oedolion hyˆ n sy’n wynebu risg o gwympo ymgorffori gweithgarwch corfforol er mwyn gwella balans a chydsymudiad o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. | |
| Dylai oedolion hyˆ n fod yn llonydd (ar eu heistedd) am gyn lleied o amser â phosibl am gyfnodau estynedig. | |
Ffynhonnell:Dechrau Egnïol,
Dyfodol Egnïol
Dechrau Egnïol, Dyfodol Egnïol
Yn yr adroddiad hwn ceir cytundeb ar draws y DU o ran faint o weithgarwch corfforol a’r math o weithgarwch corfforol y dylai pob un ohonom geisio ei wneud ar adegau gwahanol yn ein bywydau.
I gael yr adroddiad llawn a thaflenni ffeithiau, cliciwch yma
Ymarferion i’w gwneud yn ystod eich beichiogrwydd
Gan fod ymarfer corff yn tynhau ac yn cryfhau’ch cyhyrau ac yn gwella’ch stamina, gall eich helpu i gario’r pwysau ychwanegol y byddwch yn ei ennill yn ystod eich beichiogrwydd, yn eich paratoi ar gyfer yr enedigaeth ac yn ei gwneud hi’n haws i chi gael eich siâp yn ôl ar ôl i’ch babi gyrraedd.. Mae’r dolenni a ganlyn yn rhoi cyngor i chi ynghylch yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn ystod eich beichiogrwydd (Saesneg yn unig): |
http://www.nhs.uk/Livewell/pregnancy/Pages/Exerciseandpregnancy |
Ymarferion i’w gwneud ar ôl yr enedigaeth
Mae nifer o resymau da dros ddechrau gwneud ychydig o ymarferion syml ar ôl yr enedigaeth. Bydd ymarferion:: |
|
Yn rhoi hwb i chi gan ei fod yn codi lefel y cemegolion yn eich ymennydd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda (fel endorffinau) |
|
Yn eich helpu i golli pwysau ac i gael eich siâp yn ôl |
|
Yn lleihau poen ac yn rhoi mwy o egni i chi os ydych chi’n teimlo’n flinedig |
|
Yn cryfhau’ch corff ac yn gwella’ch stamina gan ei gwneud yn haws i chi ofalu am eich plentyn |
Mae’r dolenni a ganlyn yn sôn am rai ymarferion syml i chi gael dechrau arni (Saesneg yn unig): |
http://www.nhs.uk/Livewell/fitness/Pages/Exerciseafterpregnancy.aspx |
Gweithgareddau yn Sir y Fflint
| Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, Sir y Fflint | "Kick-start" Mae "Kick-start" yn rhaglen 16 wythnos o ddosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp dan oruchwyliaeth sy’n addas i bob gallu, ac maent yn cael eu rhedeg gan Weithiwr Proffesiynol (hyfforddwr) Atgyfeiriadau Ymarfer Corff er mwyn eich helpu i ddechrau ymgymryd â gweithgareddau corfforol yn rheolaidd. |
Beth am ddarganfod mwy am grwpiau cerdded lleol a drefnir gan Troedio Sir y Fflint? I ddarganfod mwy ac i lawrlwytho copi o’r rhaglen gerdded fisol, edrychwch ar y dudalen 'Gweithgareddau Lleol'. |
|
Mae nofio yn un ymarfer corff sy’n gwella ffitrwydd y corff cyfan. Gall roi hwb i’ch cryfder a’ch stamina ac ystwythder y corff . Mae 5 o byllau nofio’r Sir y Fflint yn perthyn i’r Awdurdod Lleol:
I ddarganfod mwy am amseroedd agor, dosbarthiadau a phrisiau,cliciwch yma |
|
| Sglefrio | Mae sglefrio yn weithgaredd hwyliog ar gyfer y teulu cyfan. Llawr Sglefrio Glannau Dyfrdwy, Queensferry yw’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Chwaraeon Iâ yng Nghymru. Mae ynddo bad sglefrio maint Olympaidd , a chynigir amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau iâ, gan gynnwys Hoci Iâ, Cyrling a Disgo ar Iâ. Am fanylion amseroedd agor a phrisiau, cliciwch yma. |
| Switiau Ffitrwydd Cyngor Sir y Fflint | Mae Switiau Ffitrwydd Bridges ar gael yn:
Am fwy o wybodaeth ac amseroedd agor, cliciwch yma |
| Clwb Ffitrwydd Iau | Mae Bridges hefyd yn darparu Clwb Ffitrwydd Iau i blant rhwng 13 a 15 mlwydd oed sy’n mwynhau ffordd o fyw mwy iach ac egniol. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma |
| Chwarae Golff | Mae cyrsiau golff ar gael ledled y Sir yn:
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma |
Chwaraeon i bobl anabl yn Sir y Fflint
Mae gan Cyngor Sir y Fflint cynllun newydd o'r enw "actif ac un". Bydd hwn yn caniatau i 'gynorthwy - ydd personal' ddod i'n canolfannau hamdden yn ddi-dal os yw'n cynorthwyo cwsmer anabl. |
|
| Mae Rhaglen Datblygu Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru yn ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru â'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru. Anelir y cynllun i ddatblygu cyfleon chwaraeon ac hamddenol safonol sy'n seiliedig yn y gymuned ar ran bobl anabl drwy Cymru i gyd. | |
| Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a ffyrdd o fyw egnïol. |
